Bron i 800 mewn cyfarfod addysg ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Daeth bron i 800 o bobl i gyfarfod cyhoeddus ger y Gelli Gandryll nos Fercher i drafod dyfodol addysg uwchradd ym Mhowys.
Roedd disgyblion, rhieni a phobl leol yn bresennol yn y cyfarfod yn Ysgol Uwchradd Gwernyfed, fel rhan o ymgynghoriad ar gynlluniau i gau'r ysgol honno ac Ysgol Uwchradd Aberhonddu erbyn diwedd mis Awst 2017.
Mae Cyngor Powys yn dweud mai'r cynllun yw i agor ysgol newydd ar y ddau safle gyda'r nod yn y pendraw o adeiladu campws newydd sbon yn Aberhonddu erbyn 2019/20. Grwp Colegau'r NPTC yn Aberhonddu fydd yn gyfrifol am addysg ôl 16.
Ar hyn o bryd, mae 450 o ddisgyblion yn ysgol Gwernyfed a 556 yn Aberhonddu.
Mae llawer yn poeni am yr effaith y gallai cau'r ysgolion ei gael ar y gymuned leol, addysg plant a'r pellter y bydd yn rhaid i rai deithio er mwyn cyrraedd yr ysgol uwchradd agosaf.
Mae rhai hyd yn oed wedi awgrymu y byddai'r cam yn golygu y gallai rhai fyddai'n astudio yng Ngwernyfed yn y dyfodol gael eu gorfodi i deithio dros y ffin i Sir Henffordd am eu haddysg.
Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Uwchradd Gwernyfed, y Parchedig Ian Charlesworth: "Os bydd yr ysgol yn cau, mae'n rhan mor annatod o'r gymuned, rydym yn poeni am ddyfodol y gymuned.
"Mae pobl yn ofni beth allai ddigwydd os na fydd y lle yma'n darparu cyfleusterau chwaraeon a stiwdio ddrama, heb son am y plant yn gorfod mynd i rywle arall i gymdeithasu."
'1,500 yn llai mewn addysg uwchradd'
Dywedodd Cyngor Powys bod yn rhaid cyflwyno newidiadau oherwydd bod gormod o leoedd ysgol, ac er mwyn sicrhau gwell cyllid ar gyfer addysg uwchradd yn ne Powys.
Dywedodd y Cynghorydd Arwel Jones, sy'n gyfrifol am bortffolio addysg Cyngor Sir Powys: "Mae cau unrhyw ysgol yn bryder i rieni a'r gymuned. Ond mae tua 1,500 yn llai o ddisgyblion mewn addysg uwchradd ym Mhowys nawr o'i gymharu a chwe blynedd yn ôl.
"Yn amlwg, mae yna gysylltiad rhwng hyn a'r cyllid mae ysgolion yn ei dderbyn, a'r pynciau sydd ar gael.
"Mae yna le i wella safonau hefyd, felly'r syniad yw i gael mwy o fyfyrwyr mewn un ysgol er mwyn denu'r athrawon gorau."
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y newidiadau sy'n cael eu cynnig yn dod i ben ar 22 Mai.