Ched Evans yn ennill apêl yn erbyn ei euogfarn
- Cyhoeddwyd

Mae'r pêl-droediwr Ched Evans wedi ennill apêl yn erbyn ei euogfarn am dreisio, a bydd achos newydd yn cael ei gynnal.
Cafodd Mr Evans ei garcharu yn 2012 am dreisio dynes 19 oed mewn gwesty yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.
Cafodd y chwaraewr rhyngwladol ei ryddhau o'r carchar yn 2014 wedi iddo dreulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo.
Mae Mr Evans, 27, wastad wedi gwadu treisio'r ddynes.
'Tystiolaeth newydd'
Cafodd ei achos ei gyfeirio at y Llys Apêl gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC), sy'n ymchwilio i achosion posibl o gamweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar ôl i dystiolaeth newydd ddod i'r amlwg.
Dywedodd yr Arglwyddes Ustus Hallett, wrth gyhoeddi penderfyniad y llys, bod y barnwyr wedi clywed "tystiolaeth newydd" yn ystod y gwrandawiad apêl ar 22 a 23 Mawrth.
Dywedodd: "I grynhoi, rydym wedi dod i'r casgliad bod yn rhaid i ni ganiatáu'r apêl a'i fod er budd cyfiawnder i orchymyn ail achos."
Fe wnaeth y llys ddiddymu euogfarn Mr Evans gan ddatgan: "Bydd yr apelydd yn wynebu ail achos ar yr honiad o dreisio."