Cerddor dawnus 'Pesda

  • Cyhoeddwyd
Les Morrison yn y stiwdioFfynhonnell y llun, Facebook/Alex Morrison
Disgrifiad o’r llun,
Les Morrison yn y stiwdio

Gyda gŵyl Pesda Roc 2016: Er Cof am Les yn cael ei chynnal ar 30 Ebrill-1 Mai mae dylanwad y cerddor a'r cynhyrchydd Les Morrison a fu farw'n 55 oed yn 2011 yn cael ei gofio a'i ddathlu ym Methesda.

Ond pam fod Les yn cael ei gyfri'n berson mor bwysig i ddatblygiad sîn gerddorol ei ardal a thu hwnt?

"Roedd Les yn gatalydd," meddai Siôn Jones, gitarydd un o fandiau Cymraeg mwyaf yr wythdegau, Maffia Mr Huws, o Fethesda, wrth Cymru Fyw.

"Roedd pawb yn mynd ato fo yn y stiwdio. Ar ôl iddo fo fynd y gwnaeth pobl sylweddoli pa mor bwysig oedd o."

Bydd Maffia yn ymuno efo Celt ar y llwyfan i gloi'r ŵyl ar nos Sul 1 Mai ac yn chwarae caneuon Les Morrison gyda gwesteion arbennig yn canu.

Teulu

Paul Morrison, 39, mab hynaf Les, gafodd y syniad o drefnu'r penwythnos yn Neuadd Ogwen ac mae'n cofio gwylio ei dad yn gweithio yn ei stiwdio gyda bandiau fel Meic Stevens, Celt, Maffia Mr Huws, ac Iwcs a Doyle.

"Mai'n bum mlynedd ers iddo farw rŵan - mae 'di fflio. 'Dan ni jest isho i bobl ei gofio fo," meddai Paul.

"Dim job oedd o i Les, doedd o ddim yn teimlo fatha mynd i'r gwaith iddo fo, roedd o'n licio 'neud o, dyna oedd ei fywyd o.

"Roedd o'n enjoio helpu pobl. Roedd o'n recordio lot am ddim."

Disgrifiad o’r llun,
Les Morrison gyda Geraint Jarman yn un o hen wyliau Pesda Roc

Mae dau arall o bump o blant Les ymysg y ffrindiau, teulu a'r cerddorion lleol sydd yn cymryd rhan, Danny gyda The Chillingtons a Zaytones ac Alex gyda Yucatan a hefyd Sen Segur, sy'n ailffurfio'n arbennig ar gyfer yr ŵyl.

"Mae'r Pesda Roc yma'n wahanol," ychwanega Siôn Jones. "Teulu Les sy' 'di cael y penwythnos at 'i gilydd ac mae'n adio elfen bersonol - mae pawb yn 'neud o i'r teulu."

Un o'r prif resymau eraill am ddylanwad Les meddai Siôn Jones ydy "am ei fod yn un o'r cerddorion pop cyntaf yn Gymraeg ym Methesda".

Roedd yn un o'r hogiau lleol cyntaf i ymuno efo bandiau Saesneg oedd yn cael eu sefydlu yn yr ardal gan fewnfudwyr i'r ardal yn y 70au ond wedyn "mi drosglwyddodd o hwnna yn ara' bach i'r bandiau Cymraeg eu hiaith".

Ymunodd Les efo'r band Mwg gyda Steve Roberts - un o'r "bandiau Cymraeg cynta' ym Methesda," meddai Siôn - ac roedd hynny'n sbardun i'r llu o fandiau a ddilynodd yn Nyffryn Ogwen.

'Isho bod mewn band'

Disgrifiad o’r llun,
Dylanwadodd Les Morrison ar hogiau ifanc Maffia a ffrwydrodd o sîn Bethesda yn yr 1980au

Mae Siôn yn cofio gwrando ar Mwg yn ymarfer yn garej y canwr Steve Roberts pan oedd yn ei arddegau: "Oedd o'n uchel, oedd y dryms yn blastio ac oedd o'n impressio criw ni, yr oed yna. Oeddan ni isho bod mewn band ar ôl gweld hyn."

Ond yn ogystal â'r ffaith ei fod mewn band ac yn hŷn na Maffia, fe wnaeth ddylanwadu fel cerddor hefyd meddai Siôn a ddaeth yn aelod o'i fand Saesneg, Offspring, tua dechrau'r 1990au diwedd yr 80au.

Les oedd yn cyfansoddi caneuon Offspring a dyna pryd y sylweddolodd Siôn fod ganddo'r ddawn i gyfansoddi a'r reddf i greu "caneuon catchy" meddai.

Fe gafodd y band ei chwarae ar raglen BBC Radio 1 John Peel.

"Roeddan ni'n edmygu Les fel cerddor a hefyd fel person," ychwanegodd Siôn. "Roedd o'n foi mor hawddgar. Roedd ganddo fo ddiddordeb mewn pobl ac yn rhoi amsar i unrhyw un."

Ffynhonnell y llun, Nici Beech
Disgrifiad o’r llun,
Hefin Huws yn ystod set gan Offspring yn Pier Llandudno yn yr 80au hwyr. Cefn Les Morrison sydd yn y llun!

Recordio am ddim

Ond efallai mai ei gyfraniad mwyaf oedd drwy'r stiwdio a sefydlodd gyda Alan Edwards o Maffia dan gaffi Fitzpatrick ar stryd fawr Bethesda.

Pan fu farw Alan mewn damwain ffordd pan roedd Maffia ar daith yn Llydaw penderfynodd Les barhau efo'r stiwdio a daeth yn lle canolog i'r sîn roc Gymraeg yn yr 80au a'r 90au.

Roedd Les yn enwog am roi mwy o amser i fandiau a chaniatáu iddyn nhw recordio am ddim.

"Hebdda fo fysan ni ddim 'di cychwyn g'neud dim byd, mae mor syml â hynny," meddai Barry Jones, neu Archie, o'r band Celt ar raglen Recordiau Rhys Mwyn, Radio Cymru.

"Y ffaith fod gynno fo stiwdio yn Bethesda a'i fod yn ei 'neud o fel llafur cariad llwyr... doedd Les ddim yn ei redeg o fel busnes, gododd o 'rioed geiniog arnon ni... achos i fod o'n 'neud o i helpu cerddorion ifanc sefydlu eu hunain.

"Nathon ni 'rioed anghofio hynny," meddai.

'Gweld potensial'

Mae Llawenydd Heb Ddiwedd gan y Cyrff, Whare'n Noeth gan Meic Stevens, a Sbectol Dywyll gan Steve Eaves ymysg yr albyms gafodd eu recordio ar wyth trac yn Stiwdio Les. Fe wnaeth Jecsyn Ffeif, Bryn Fôn, Y Fflaps a llu o fandiau eraill recordio yno hefyd.

Meddai Siôn: "Roedd yn rhoi lot o'i hun i'r bobl a'r cerddorion oedd yn dod i'r stiwdio. Oedd o jyst yn caru'r peth gymaint, oedd gynno fo passion am y peth ac am y bobl."

Ffynhonnell y llun, Nici Beech
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Y Jecsyn Ffeif yn un arall o fandiau Bethesda gyda chysylltiad â Les Morrison

Fe wnaeth roi cychwyn i lawer o fandiau hefyd ac roedd yn gallu gweld potensial mewn band neu unigolyn yn syth, meddai Siôn.

Un o'r bandiau hynny oedd y band lleol Machlud, gyda Gruff Rhys a Martin Beattie yn aelodau. Aeth Gruff ymlaen i fod yn aelod o Ffa Coffi Pawb a Super Furry Animals a Martin yn aelod o Celt.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, daeth Les yn rhan o griw y Super Furry Animals gan deithio'r byd gyda nhw fel technegydd.

Meddai Siôn am y cyfnod olaf hwnnw yn ei fywyd: "Roedd yn amlwg ei fod wedi slotio fewn i'r sîn yna yn gyfan gwbl.

"Hwnna oedd ei freuddwyd o mewn ffordd a tasa fo 'di bod yn gerddor ynghanol yr holl beth, mi fasa 'di bod yn hollol brilliant - ond gafodd o'r next best thing efo'r 'ogia dwi'n meddwl."

Pan fu farw Les Morrison yn 2011 fe gafodd ei ddisgrifio gan Gruff Rhys fel "arwr addfwyn ac anturiaethwr... a gefnogodd gerddorion ei fro i'r carn... gŵr, tad, taid, awdur caneuon, cynhyrchydd, cerddor, technegydd sain, cyfarwyddwr, plastrwr, elusenwr, cymwynaswr, rhwydweithiwr o fri, catalyst i newid, pen label recordio, rheolwr stiwdio, athro. Colled anferthol i'w deulu, ei gymuned ac i gymuned fyd-eang o gerddorion."

Ysgrifennodd ei gyfaill, Steve Eaves, deyrnged iddo yng nghylchgrawn Barn gan ddweud "...mae disgleirdeb a dyfeisgarwch Les fel cynhyrchydd, a'i gyfraniadau gwych fel cerddor, i'w clywed ar lawer record gan lawer artist a band. Os byddech yn wrandäwr cyson ar Radio Cymru rhwng diwedd yr 80au a'r 90au hwyr, mi fyddai cyfran sylweddol iawn o'r gerddoriaeth gyfoes fwyaf diddorol glywech chi wedi ei chynhyrchu gan Les."

Ffynhonnell y llun, Pesda Roc

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol