Pedwar o Gymru yng ngharfan nofio Rio

  • Cyhoeddwyd
Jazz CarlinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Enillodd Jazz Carlin fedal aur ym mhencampwriaethau Ewrop yn 2014

Bydd pencampwraig nofio Ewrop a'r Gymanwlad Jazz Carlin yn un o bedwar o Gymru yng ngharfan Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Rio yr haf hwn.

Mae 26 yn y garfan, gan gynnwys Chloe Tutton, Georgia Davies ac Ieuan Lloyd.

Ond nid oes lle ar gyfer Alys Thomas nac Adam Mallett er gwaethaf buddugoliaethau yn y treialon Prydeinig yn Glasgow.

Collodd Carlin Gemau Olympaidd Llundain 2012 ar ôl dioddef o salwch yn y cyfnod cyn y treialon Olympaidd.