Ap Uber i lansio eu gwasanaeth yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
uber

Bydd yr ap hurio tacsis Uber yn lansio yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Cafodd y cwmni drwydded i weithredu yn y brifddinas fis Ionawr a dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw gynnig eu gwasanaethau yng Nghymru.

Mae Uber yn cysylltu teithwyr gyda gyrwyr drwy ffonau clyfar.

Mae gan y cwmni yrwyr mewn 15 o leoliadau ar draws y DU ar hyn o bryd, gan gynnwys Belfast, Glasgow, Bryste, Manceinion a Llundain.

Ond mae rhybudd gan undebau y gallai'r ap orfodi tacsis cyffredin i gynnig prisiau is, gan ei gwneud yn anodd i yrwyr ennill bywoliaeth.

Bydd taith o brif orsaf drenau Caerdydd i Cathays yn costio tua £4.70, meddai Uber.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae pob gyrrwr sy'n defnyddio ap Uber yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu trwyddedu ar gyfer cerbydau hurio preifat gan yr awdurdod lleol ac maen nhw'n cyrraedd y gofynion trwyddedu, gan gynnwys gwiriad Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ogystal â chael yswiriant masnachol."