Amnest gynau: Dros 100 o eitemau
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi bod dros 100 o eitemau wedi cael eu cyflwyno yn ystod ymgyrch Ildiwch y Gwn.
Nod yr ymgyrch - oedd yn cael ei redeg ar y cyd gyda heddluoedd gogledd orllewin Lloegr - oedd annog pobl i ddod ag arfau anghyfreithlon i mewn.
Y ddealltwriaeth oedd na fyddai unrhyw un yn cael eu herlyn yn ystod yr ymgyrch rhwng 4-18 Ebrill.
Yn ystod y bythefnos, cafodd gynau llaw, gynau saethu, reifflau a gynau aer eu hildio yn ogystal â bwledi ac ati.
Byddant yn cael eu dinistrio.
'Ymateb rhagorol'
Dywedodd y Prif Arolygydd Richie Green: "Rydym wedi cael ymateb rhagorol i'r ymgyrch hwn a hoffem ddiolch i bawb a fanteisiodd ar y cyfle i ildio eu drylliau tanio neu eu bwledi.
"Rydym yn ffodus iawn nad oes gennym broblem gyda gynau yma yng ngogledd Cymru ond mae gennym nifer fawr o ddrylliau tanio cyfreithlon a drylliau tanio hŷn sydd ym meddiant pobl.
"Yn anffodus, gall y drylliau hyn lanio yn y dwylo anghywir a chael eu defnyddio mewn troseddau.
"Mae pob gwn a gyflwynwyd i ni yn un llai a allai gael ei ddefnyddio gan droseddwr i gyflawni trosedd ac o ganlyniad mae hwn wedi bod yn ymgyrch hynod lwyddiannus."
Ar hyn o bryd fe ddywed yr heddlu bod 116 o arfau wedi eu derbyn, ond mae awgrymiadau y bydd y cyfanswm terfynol ymhell dros 120. Hyd yma mae'r heddlu wedi derbyn:
- 40 gwn tanio (shotguns);
- 23 o arfau aer (reifflau a gynau llaw);
- 17 gwn llaw;
- 3 reiffl;
- Tua 35 cyflwyniad o fwledi neu getris.
Er bod yr ymgyrch wedi dod i ben gall pobl dal gyflwyno eu drylliau tanio yng ngorsafoedd heddlu Wrecsam, Yr Wyddgrug, Y Rhyl, Llandudno, Bae Colwyn, Caernarfon, Bangor a Chaergybi.
Fe ddywed yr heddlu y gall pobl ffonio 101 os oes ganddyn nhw arfau i'w hildio ond nad ydyn nhw'n gallu mynd i orsaf heddlu. Fe fydd yr heddlu wedyn yn trefnu i ddod i'w casglu.
Os oes gan unrhyw un bryderon am ddrylliau tanio yn y gymuned fe ddylen nhw gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.