22 o eglwysi i gau fel rhan o ad-drefniant yn y gogledd

Eglwys Ein Harglwyddes a Sant Iago Image copyright Eric Jones
Image caption Bydd Eglwys Ein Harglwyddes a Sant Iago, Bangor, yn uno â Santes Helen yng Nghaernarfon

Bydd mwy na 20 o eglwysi Catholig ar draws gogledd Cymru yn cau fel rhan o ad-drefniant.

Mae'r Esgob Peter Brignall o Esgobaeth Wrecsam yn bwriadu cau 22 o'r 62 o eglwysi Catholig yn y gogledd erbyn 2020.

Dywedodd y gallai rhai eglwysi gau "o fewn wythnosau".

Ychwanegodd ei fod yn deall y byddai rhai plwyfi yn siomedig gyda'r cynlluniau ond mynnodd ei fod yn "gyfle enfawr ar gyfer adnewyddu".

Bydd eglwysi a phlwyfi yn cael eu cau neu eu huno yn Wrecsam, Y Fflint, Y Rhyl, Dolgellau, Caernarfon a Bae Colwyn.