Delweddau anweddus: Rhyddhau dyn o Wynedd ar apêl

  • Cyhoeddwyd
Llys

Mae dyn o Wynedd gafodd ei garcharu am ofyn i ddwy ferch 13 oed anfon delweddau anweddus iddo wedi cael ei ryddhau ar apêl.

Roedd Robert Daniel James, 31 oed, o Ddolgellau, wedi cyfarfod y merched ar wefan Facebook ac fe anfonodd negeseuon yn gofyn i'r ddwy am ddelweddau ohonyn nhw.

Ond fe wrthododd y merched a gwneud hynny, ac fe gafodd yr heddlu eu galw.

Ym mis Rhagfyr y llynedd fe gafodd James ei garcharu am 18 mis ar ôl cyfaddef i ddwy drosedd rhyw.

Yn Llys yr Apêl yn Llundain ddydd Gwener fe benderfynodd dau farnwr na ddylai fod wedi cael ei garcharu ac fe gafodd ei ryddhau.

Dywedodd Mr Ustus Saunders bod James wedi treulio cyfnod dan glo oedd yn cyfateb i ddedfryd o wyth mis, ac fe gafodd hyd y ddedfryd ei chwtogi i gydfynd a'r cyfnod yma.

"Mae'n deg dweud nad oedd natur y lluniau yr oedd wedi gofyn amdanyn nhw ar ben uchaf y troseddau o'r math yma", meddai.

"Mae hefyd yn deg dweud nad oedd wedi parhau gyda'i gais pan wrthododd y merched a rhoi'r lluniau iddo."

Oedolion

Clywodd y llys bod Mr James yn credu fod y merched yn oedolion, ond deallodd wedyn mai dim ond 13 oed oedd y ddwy.

Er iddo ddeall hynny, fe aeth yn ei flaen a gofyn am y delweddau.

Aeth ati i greu enw ffug ar y we, gan honi ei fod yn ddyn cyfoethog o'r UDA mewn ymgais i berswadio'r merched.

Ond ni wnaeth gyfarfod y merched ac nid oedd wedi ymdrechu i wneud hynny.

Clywodd y llys fod James yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl ac nid oedd wedi troseddu o'r blaen.

Clywodd y llys hefyd y byddai dedfryd o orchymyn cymunedol wedi bod yn fwy addas yn y lle cyntaf.

Ond gan ei fod wedi treulio 8 mis dan glo yn barod, fe gafodd y ddedfryd ei chwtogi i'r cyfnod hwnnw.