Cwest Cheryl James: 'Dim digon o dystiolaeth'
- Cyhoeddwyd

Mae teulu Cheryl James, fu farw yng ngwersyll milwrol Deepcut yn Surrey yn 1995, wedi "derbyn yn gyndyn" bod dim digon o dystiolaeth i sefydlu sut yn union y bu iddi farw, yn ôl datganiad i'r cwest i'w marwolaeth.
Cafwyd hyn i'r Preifat James o Langollen yn farw gydag anaf bwled i'w phen yn y gwersyll.
Dywedodd y bargyfreithiwr Alison Foster QC ar ran teulu Cheryl James, nad oedd sail ddibynadwy i ddod i'r casgliad bod yr anaf wedi ei achosi gan Cheryl James ei hun.
Ychwanegodd bod digon o dystiolaeth i ddod i'r casgliad bod y milwr 18 oed wedi ei saethu o bell.
Roedd y Preifat James yn un o bedwar milwr ifanc i farw yn y gwersyll dros gyfnod o saith mlynedd.
Mae'r crwner yn y cwest yn Woking, Surrey, wedi derbyn yr holl dystiolaeth, ond mae disgwyl i'r Weinyddiaeth Amddiffyn roi datganiadau terfynol i'r cwest.
Mae'r cwest wedi clywed tystiolaeth gan 109 tyst, yn cynnwys naw tyst arbenigol.
Bydd y Crwner Brian Baker QC yn dechrau ystyried y dystiolaeth yn ddiweddarach ac mae disgwyl iddo gyhoeddi ei gasgliadau ar 18 Mai.
Cafwyd dyfarniad agored yn y cwest cyntaf i farwolaeth Preifat James yn 1995. Y cwest presennol yn Woking yw'r ail i gael ei gynnal, wedi i farnwyr yn yr Uchel Lys ddileu casgliad y cwest gwreiddiol.
Mae'r cwest yn parhau.