Etholiad: Pleidiau llai yn cyhoeddi eu haddewidion
- Cyhoeddwyd

Mae rhai o'r pleidiau llai wedi cyhoeddi eu blaenoriaethau ar gyfer etholiad y Cynulliad fis Mai.
Mae'r Blaid Gomiwnyddol Gymreig yn galw ar Lywodraeth nesa' Cymru i wladoli'r diwydiant dur.
Drwy annog cefnogwyr Llafur i bleidleisio dros y comiwnyddion ar y rhestr ranbarthol, eu gobaith yw y bydd hynny'n arwain at gynrychiolaeth sosialaidd yn y Senedd.
Dywedodd yr arweinydd, Robert Griffiths, ei fod eisiau i'r Cynulliad gael "pwerau go iawn ac adnoddau i wneud newidiadau mawr".
Mae'n galw am Deyrnas Unedig ffederal a fyddai'n ailddosbarthu cyfoeth sydd wedi ei "gasglu" gan y 10% o'r bobl gyfoethocaf yn y wlad.
'Camgymeriad'
Yn ôl un blaid fe ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei ddiddymu, gan ddisgrifio'r sefydliad fel "camgymeriad drud".
Mae gan Diddymu'r Cynulliad Cenedlaethol ymgeiswyr ar y pum rhestr rhanbarthol ar gyfer yr etholiad.
Dywedodd David Bevan o'r blaid: "Fe wnaeth y Swyddfa Gymreig a'r 40 o Aelodau Seneddol yn San Steffan y gwaith yn dda ar dipyn llai o gost.
"Unrhyw beth sydd angen ei ddatganoli - unrhyw bwnc - rydym ni'n dweud y dylai gael ei ddatganoli i awdurdodau lleol."
'Manic-festo'
Mae'r Official Monster Raving Loony Party wedi cyhoeddi ei "Manic-festo".
Eu gobaith yw cyflwyno'r llythyren K i wyddor yr iaith Gymraeg a chyflwyno llwybr newydd i ffordd osgoi'r M4 o gwmpas Casnewydd a fyddai'n dilyn yr arfordir er mwyn rhoi hwb i dwristiaeth.
Mae gan y blaid ymgeiswyr ar y pum rhestr ranbarthol.