Carchar i drosedwr rhyw o Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr achos yn Llys y Goron Caerdydd

Mae pedoffeil o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am 20 mis am lawrlwytho lluniau anweddus o blant yn cael eu cam-drin.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Paul Buckland wedi ei gael yn euog yn 2011 o fod a delweddau anweddu o blant ar ei gyfrifiadur.

Dywedodd y barnwr wrtho nad oedd wedi dysgu unrhyw wersi.

Yn ogystal â dedfryd o garchar cafodd Buckland orchymyn troseddwr rhyw 10 mlynedd a bydd rhaid iddo gadw mewn cysylltiad â'r heddlu.