Cannoedd yn ffarwelio â'r Athro Gwyn Thomas

  • Cyhoeddwyd
capel Pendref
Disgrifiad o’r llun,
Daeth cannoedd i wasanaeth ffarwelio Gwyn Thomas yng nghapel Pendref, Bangor

Cafodd angladd yr Athro Gwyn Thomas ei gynnal ddydd Sadwrn.

Cafodd ei gladdu ym mynwent Llan Ffestiniog yn y bore, cyn i gannoedd ddod at ei gilydd yng nghapel Pendref ym Mangor ar gyfer gwasanaeth ffarwelio.

Roedd yn awdur 16 o gyfrolau barddoniaeth, yn academydd ac yn gefnogwr brwd o'r diwydiant ffilm.

Bu farw yn ei gartref ym Mangor ar 13 Ebrill yn 79 oed.

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru