Cost angladdau'n debygol o godi yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Mynwentydd Penfro

Mae cost claddu'n debygol o godi yn Sir Benfro wrth i'r awdurdod geisio cadw dau pen llinyn ynghyd.

Mae gan y cyngor sir 11 mynwent ond mae'n dweud nad yw ffioedd claddu'n "cyfrannu fawr ddim" at y gwaith o'u cynnal a'u cadw.

Yn ôl adroddiad fydd yn mynd gerbron y cabinet ar 25 Ebrill, mae angen £50,000 yn ychwanegol bob blwyddyn i gwrdd a chostau'r cyngor.

Mae'n argymell cynyddu'r pris am wasanaethau fel cadw plot i gloddio bedd.

Os bydd cytundeb, bydd cost paratoi bedd yn cynyddu o £464 i £760, tra bydd cost claddu llwch yn codi o £151 i £160.

Mae disgwyl i bris gosod cofeb hefyd godi.