Gwasanaeth eglwys i gefnogi gweithwyr dur

  • Cyhoeddwyd
Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd gwasanaeth arbennig ei gynnal ym Mhort Talbot ddydd Sul, wrth i eglwysi a chapeli ddod at ei gilydd i ddangos eu cefnogaeth i'r diwydiant dur.

Mae dyfodol gweithfeydd Tata yng Nghymru yn y fantol wedi i'r cwmni gyhoeddi ei fod yn mynd i'w gwerthu.

Gafodd y gwasanaeth ei gynnal am 15:00 yn Eglwys y Bedyddwyr, Ebenezer.

Ymunodd 16 o arweinwyr eglwysi a chapeli lleol i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr dur a'u teuluoedd.

Caplan Dur Tata, y Parchedig Rick Hayes, sy'n arwain y grŵp, sydd wedi sefydlu tîm gweinidogol i gynnig cymorth a chyngor i weithwyr sy'n wynebu colli eu gwaith.