Canmoliaeth i sgowtiaid am helpu gwraig wedi ei hanafu

  • Cyhoeddwyd
Pen StrwmblFfynhonnell y llun, Croeso Cymru

Mae Gwylwyr y Glannau wedi canmol arweinyddes gyda'r Sgowts a bachgen sy'n aelod o'r mudiad wedi iddyn nhw roi cymorth cyntaf i wraig oedd wedi syrthio ar lwybr yr arfordir ym Mhen Strwmbl yn Sir Benfro.

Roedd y ddau allan yn yr ardal tua amser cinio pan ddaethon nhw o hyd i'r wraig oedd wedi anafu ei phen a'i chlun.

Pan gyrhaeddodd Gwylwyr y Glannau o Abergwaun, roedd y ddau yn rhoi cymorth cyntaf iddi ac yn sicrhau ei bod yn gyfforddus.

Cafodd ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

'Byddwch yn ofalus'

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau: "Fe wnaeth yr arweinyddes gyda'r Sgowtiaid a'r Sgowt yn wych i edrych ar ôl y wraig tan i ni gyrraedd ac hoffem ddiolch iddyn nhw am eu cymorth."

Mewn digwyddiad arall, cafodd pedwar o bobl eu hachub gan gwch achub yn ardal y Mwmbwls ger Abertawe, ar ôl iddyn nhw gael eu hynysu gan ddŵr y môr.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi cael diwrnod prysur, ac maen nhw'n atgoffa pobl i fod yn ofalus pan yn cerdded ar hyd yr arfordir, ac i fod yn wyliadwrus o'r llanw.