'Dylid gallu erlyn y Weinyddiaeth Amddiffyn' medd ASau
- Cyhoeddwyd

Fe ddylai fod yn bosib erlyn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dilyn marwolaeth aelodau o'r lluoedd arfog yn ystod ymarferion, medd aelodau seneddol.
Mae Pwyllgor Amddiffyn Tŷ'r Cyffredin yn dweud na ddylai'r MoD gael ei heithrio o'r gyfraith sy'n ymwneud â dyndladdiad corfforaethol, mewn achosion o esgeulustod difrifol.
Ers dechrau'r flwyddyn 2000, mae 135 o aelodau wedi marw yn ystod ymarferion.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod marwolaethau yn ystod hyfforddiant yn anarferol, ond bod "angen gwneud mwy", ac y byddai'n ystyried yr adroddiad.
"Dyw bywydau aelodau sy'n gwasanaethau ddim yn llai gwerthfawr na bywydau pobl gyffredin," meddai'r pwyllgor.
"Dylai'r rhai oedd yn gyfrifol am y marwolaethau fod yr un mor atebol o fewn y gyfraith."
O fewn yr 16 mlynedd diwethaf, bu 89 marwolaeth yn ystod ymarferion yn y fyddin, 24 yn y Llynges Frenhinol a'r Morlu Brenhinol, a 22 yn yr Awyrlu.
Yn 11 o'r achosion, rhoddodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch gerydd y Goron i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, y gosb lymaf bosib.
Y llynedd, daeth crwner i'r casgliad fod tri milwr, fu farw ar Fannau Brycheiniog yn 2013 yn ystod sesiwn hyfforddi i ddewis aelodau i'r SAS, wedi marw o ganlyniad esgeulustod.
Derbyniodd y fyddin nad oedd wedi rheoli'r risg yn ymwneud â'r ymarferiad yn ddigon gofalus.