Gwrthdrawiad angheuol ger Castell-nedd
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol ger Castell-nedd nos Sadwrn.
Digwyddodd y ddamwain tua 18:45 ar ffordd y B4242 i'r gogledd o bentref Abergarwed.
Bu farw dyn wedi i'r Citroen C2 coch roedd e'n ei yrru fynd oddi ar y ffordd.
Mae'r heddlu'n diolch i'r gymuned am eu hamynedd a'u cymorth tra bo'r ffordd ar gau.
Maen nhw hefyd yn gofyn i unrhyw un allai fod wedi gweld y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.