Gyrrwr sgwter yn marw ar ôl taro wal
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw ar ôl i'r sgwter roedd e'n ei yrru daro'n erbyn wal.
Roedd y gŵr 72 oed yn gyrru'r sgwter ar ffordd Bron-y-Dre yn Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin, pan ddigwyddodd y ddamwain.
Dyw'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad a dydyn nhw ddim yn trin y digwyddiad fel un amheus.
Maen nhw'n goryn i unrhyw dystion i gysylltu â nhw.