Lluniau: Cymru yn y gwanwyn // Wales in springtime
- Cyhoeddwyd
Dylan Arnold o Lanrug ydy ffotograffydd gwadd Cymru Fyw ym mis Ebrill. Dyma i chi gasgliad o rai o'r lluniau trawiadol dynnodd o yn ystod y mis:
Dylan Arnold from Llanrug is Cymru Fyw's guest photographer in April. Here's a selection of stunning photos of Wales he's taken during the month:
Fy mab Elis yn ceisio osgoi'r mwg a'r stêm wrth fynd trwy dwnel Aberglaslyn, ar y lein o Borthmadog i Feddgelert // Full steam ahead. Passengers trying to avoid the smoke as the Porthmadog to Beddgelert train goes through the Aberglaslyn tunnel
Cae o gennin Pedr. Golygfa odidog ar ben allt Rhuallt ar yr A55 // "I saw this stunning field of daffodils whilst travelling down Rhuallt Hill on the A55. I had to stop and take a picture"
Panorma Castell Caernarfon gyda'r cyfnos // A panaromic shot of Caernarfon Castle at twilight
Tîm achub yn ymateb i alwad ar ôl i fachgen fynd i drafferth yn y môr ger traeth Abereiddi yn Sir Benfro // A rescue helicopter responds to an emergency call near Abereiddy beach in Pembrokeshire
Yr hebog aur: Llyn Dinas yn Eryri. Copa euraid Moel Hebog yn cael ei adlewyrchu gan yr haul // Llyn Dinas near Beddgelert. The golden peak of Moel Hebog reflected by the sun
Noson fendigedig yn gwylio'r haul yn machlud ar oleudy Ynys Lawd, ger Caergybi // The sun sets on South Stack lighthouse near Holyhead
P'nawn bach i synfyfyrfio yn Harbwr Porthgain // A quiet afternoon for reflection at Porthgain Harbour, Pembrokeshire
Adlewyrchiadau ar Lyn Mymbyr ger Capel Curig yn Eryri // Reflections on Llyn Mymbyr near Capel Curig in Snowdonia
Noson braf ar draeth Aberdesach wrth i'r haul fachlud // A beautiful evening at Aberdesach beach at the top of the Lleyn Peninsula
Paentio gyda golau ar draeth Dinas Dinlle // A photographic experiment: Painting with colours on Dinas Dinlle beach
Ydych chi erioed wedi cael y teimlad eich bod yn cael eich gwylio? // Ever had the feeling you're being watched?
Y pier ym Mae Colwyn: Diwedd pennod 'ta dechrau un newydd? // Colwyn Bay pier: End of an era or a beginning of a new chapter?