Dau ddyn yn pledio'n ddieuog i lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Stephen Bennett, o Bontypridd ac Edward Bennett, o Aberpennar, wrth ymddangos gerbron llys y llynedd
Mae dau frawd sydd wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth wedi pledio'n ddieuog yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.
Mae Stephen Bennett, 51 o Bontypridd, ac Edward Bennett, 47 o Aberpennar, yn cael eu cyhuddo o lofruddio Mark Jones, 43 oed, yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf.
Daethpwyd o hyd iddo wedi ei saethu ar 26 Gorffennaf y llynedd yn ei Audi A3 oedd wedi ei barcio ar yr A4059.
Bu farw dau fis yn ddiweddarach.
Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl i'r achos ddechrau ar Hydref 4.