Carchar i Wesley Jones am ladd dyn mewn parti
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei ddanfon i'r carchar am naw mlynedd wedi iddo gyfaddef lladd dyn arall gyda chyllell ar ôl cymryd heroin.
Clywodd llys y goron Abertawe fod Wesley Jones, 30 oed, wedi trywanu Simon Bell, 22 oed yn ei galon mewn parti tân gwyllt yn y dref fis Tachwedd 2015.
Mae Wesley Jones yn dad i ddau o blant chwaer Simon Bell.
Dywedwyd wrth y llys bod y ddau wedi cymryd heroin mewn sied yn nhŷ yn Stryd Dillwyn, Llanelli ac yna wedi dadlau dros arian i dalu am y cyffur. Gorfodwyd i Mr Bell adael ond fe ddychwelodd i'r tŷ gan ddechrau ymladd gyda Jones.
Yn ystod y ffrwgwd trywanodd Jones Mr Bell ddwywaith, unwaith yn ei ysgwydd ac yna drwy'i galon.
Bu farw Mr Bell yn oriau mân y bore canlynol yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Roedd Wesley Jones yn wreiddiol wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth, ond mewn gwrandawiad yn gynharach fis yma, fe blediodd yn euog i ddynladdiad.
Dywedodd Elwen Evans QC ar ran Jones nad oedd drwgdeimlad rhwng y dau ddyn. ''Mae'n gwybod be mae wedi gwneud ac yn edifarhau,''meddai.
Wrth dedfrydu Jones i garchar am naw mlynedd a phedwar mis, fe ddywedodd y barnwr Mr Ustus DJ Holgate: ''Roeddech dan ddylanwad heroin. Roedd defnyddio cyllell yn gwbwl anghyfiawn ac yn anghyfreithlon.''