Chernobyl: Argraffiadau 30 mlynedd wedi'r trychineb
- Cyhoeddwyd

30 mlynedd wedi'r trychineb niwclear yno, mae Telor Iwan wedi teithio i Chernobyl ar ran BBC Cymru.
Bu'n rhannu ei argraffiadau gyda Cymru Fyw.
Chernobyl
"Rhaid i chi weld y cae pêl-droed," meddai Maxim Krygin, ein tywysydd ar ein taith drwy Chernobyl a Pripyat.
"Coedwig ydi o bellach, a dim ond un eisteddle sydd ar ôl."
I fod yn deg ag o, roedd hi'n anodd dweud mai cae pêl-droed oedd yn arfer bod yno. Cysgodion yn unig sy'n weddill o siâp y maes.
Fel cymaint o Pripyat mae natur wedi llwyr orchfygu, ymhen pump neu 10 mlynedd arall bydd llai fyth i'r ymwelydd rythu arno, ond bydd y tir yn anffrwythlon o hyd.
Telor Iwan sy'n ein tywys ar hyd un o brif strydoedd pentref Parashev
Roedd hi'n ddiwedd dydd hefyd ar Maxim yn cynnig y cae pêl-droed, un olygfa drist yn ormod braidd, mewn diwrnod oedd ar y cyfan yn peri digalondid.
Mae dinas Chernobyl fel pe bai heb newid dim ers y cyfnod cythryblus hwnnw ar ôl adweithydd rhif pedwar yr atomfa rhyw chwe milltir i ffwrdd ffrwydro.
Ymlaen i Pripyat, y ddinas oedd yn gartref i 50,000 tan ddiwedd Ebrill 1986. Gwagiwyd y ddinas mewn ychydig ddyddiau, cyn i ffair y ddinas agor am y tro cyntaf.
Mae'r cartiau'n dal i ddisgwyl cwsmeriaid yn yr archfarchnad, a Maxim - un dwi'n tybio sy'n hiraethu am y cyfnod sofietaidd - yn dangos y peiriant oedd yn gwerthu olew. Dau fath, am 15 Copek yr hanner litr.
Diwedd taith pob ymwelydd, wrth reswm yw'r ffair. Golygfeydd ingol, ac erbyn hynny mae rhywun wedi cael llond bol - er yn dal i ryfeddu at y llanast gafodd ei achosi gan y ddamwain.
Ydi, mae plant yn dal i gael eu geni ym Melarwisa medden nhw ag anableddau sy'n deillio o'r gwenwyn yn eu tir.
Wrth i Maxim arafu'r car er mwyn dangos fod y mesurydd ymbelydredd yn clicio'n gynt yn y goedwig goch ar gyrion yr atomfa - coedwig gafodd ei llosgi'n ysgarlad 30 mlynedd yn ôl - mae rhywun yn ysu am adael, ac yn poeni am iechyd ein tywysydd, sy'n teithio bron bob dydd yn ôl i Chernobyl, a'i besychiad sych rheolaidd.