Glaw a golau gwael yn rhwystro cricedwyr Morgannwg

Tony Palladino Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Tony Palladino gymryd pum wiced i'r tîm cartref

Cafodd ymdrechion Morgannwg a Sir Derby eu rhwystro gan law a golau gwael mewn amgylchiadau rhewllyd yn Derby ddydd Llun.

Fe wnaeth Michael Hogan gymryd dwy wiced olaf Morgannwg, gyda Ben Slater yn taro 41 heb fod allan wrth i'r tîm cartref gyrraedd sgôr o 98-2.

Yn gynharach, fe wnaeth Tony Palladino gymryd pum wiced wrth i Forgannwg golli tair wiced yn yr 20 munud agoriadol.

Ond fe wnaeth Andrew Salter a Timm van der Gugten ychwanegu 63 am y wiced olaf i osod sgôr o 377 i'r tîm o dde Cymru.