Tata: David Cameron yn ymweld â Phort Talbot
- Cyhoeddwyd

Mae David Cameron wedi ymweld â safle Tata Steel ym Mhort Talbot i drafod dyfodol y diwydiant dur.
Cafodd y prif weinidog gyfarfodydd gyda rheolwyr, staff a'r undebau er mwyn "clywed eu barn nhw a thrafod y ffordd ymlaen".
Mae Tata wedi cyhoeddi ei fwriad i werthu ei holl eiddo ym Mhrydain.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr wythnos ddiwethaf y byddai'n ystyried cymryd cyfran o 25% fel cyd-fuddsoddwr gydag unrhyw fenter lwyddiannus.
Mae un o reolwyr Tata, Stuart Wilkie, yn gweithio ar gynllun ble byddai'r rheolwyr yn prynu'r safleoedd ym Mhrydain.
'Dyfodol cynaliadwy'
Dywedodd llefaryddes ar ran Mr Cameron: "Mae'r llywodraeth wedi bod yn canolbwyntio dros yr wythnosau diwethaf ar wneud yn siŵr ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi dyfodol cynaliadwy ar gyfer y diwydiant dur ym Mhort Talbot."
Ond fe rybuddiodd hi hefyd bod Llywodraeth San Steffan yn ymwybodol o'r "heriau sy'n wynebu'r diwydiant dur yn y Deyrnas Unedig".
Dywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, eu bod yn "siomedig" ac wedi "synnu" clywed am ymweliad Mr Cameron drwy wefan Twitter.
"Roeddem ni wedi ei wahodd i Bort Talbot o'r blaen, ac wedi nifer o drafodaethau a chyfarfodydd a gafodd y prif weinidog (Cymru) ddoe gofynnom am gyfarfod gyda'r prif weinidog heddiw," meddai.
"Fodd bynnag, fe ddywedodd ei swyddfa nad oedd ar gael. Rydym wedi dweud drwy'r cyfan ein bod yn fodlon rhoi ein gwahaniaethau gwleidyddol i'r naill ochr er budd y diwydiant dur, ond mae angen i bob plaid barchu hynny er mwyn gwneud i hyn weithio."