Merch pump oed yn achub ei mam

  • Cyhoeddwyd
Mold Court

Clywodd Ynadon Sir y Fflint fod merch bump oed wedi llwyddo i ffonio 999 wrth i'w thŷ lenwi a mwg ac ar ôl iddi fethu a deffro ei mam.

Roedd y ferch fach yn meddwl bod ei mam wedi marw, ond clywodd y llys ei bod wedi yfed dwy ran o dair o botel wisgi.

Doedd gan y ddynes, na ellir ei henw oherwydd rhesymau cyfreithiol, unrhyw syniad fod mwg yn codi o bopty micro-don yn ei thŷ ym Mwcle, Sir y Fflint.

Fe wnaeth y ferch fach lwyddo i gael ffôn symudol ei mam a galw 999.

Fe wnaeth y fam sengl, 27 oed, bleidio'n euog i gyhuddiad o esgeuluso plentyn ar 10 Ebrill. Cafodd dedfryd o chwe wythnos o garchar wedi ei ohirio am flwyddyn, a gorchymyn i dalu costau o £170.

Dedfryd

Dywedodd y barnwr Gwyn Jones y byddai dedfryd o garchar wedi bod yn gyfiawn, ond ei fod wedi penderfynu rhoi carchar gohiriedig gan mai dyma fyddai o fwyaf o les i'r ferch.

Bydd y ferch yn cael ei dychwelyd i ofal ei mam.

Clywodd y llys fod y fam wedi cytuno i gydweithio gyda gweithwyr cymdeithasol a'i bod wedi cytuno i roi'r gorau i yfed alcohol.