Gwrthdrawiad M4: Gyrrwr tancer yn pledio'n euog

  • Cyhoeddwyd
Michael Coleman
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Michael Coleman yn 50 ac yn dod o Fetws ger Brynaman

Mae gyrrwr tancer wedi cyfaddef achosi marwolaeth dyn oedd yn gyrru craen symudol mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Caerdydd.

Ddydd Mawrth, plediodd Carl Askew, 47, yn euog yn Llys y Goron Caerdydd i achosi marwolaeth Michael Coleman, 50 oed o Fetws ger Brynaman, drwy yrru'n ddiofal.

Digwyddodd y ddamwain rhwng cyffyrdd 30 a 32 ar Dachwedd 2, 2015,

Dywedodd bargyfreithiwr y diffinydd, Mr Mathew Roberts: "Yr esgeulustod yw ei fethiant i werthfawrogi cyflymder araf y cerbyd o'i flaen."

Cafodd Askew, o Coltishall Close, Caerloyw, ei ryddhau ar fechnïaeth tan ei ymddangosiad llys nesaf ar 23 Mai.

Dywedodd y Barnwr David Wynn Morgan wrtho: "Mae achos o'r natur hon yn ddieithriad yn denu dedfryd o garchar ac mae angen i chi gadw hynny mewn cof."