Apêl wedi ymosodiad rhyw ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl ymosodiad rhyw ar fenyw ym Mhort Talbot.

Digwyddodd yr ymosodiad tua 11pm ar ddydd Sul 24 Ebrill mewn car oedd wedi ei barcio oddi ar Heol Aberafan ar Ystâd Ddiwydiannol Baglan, ger depo bws DJ Thomas.

Roedd y fenyw 41 oed y tu allan i orsaf drenau Port Talbot pan aeth i mewn i'r car a oedd yn cael ei yrru gan ddyn, gyda dyn arall fel teithiwr yn y sedd flaen.

Cafodd y cerbyd, a ddisgrifir fel salŵn pum-drws lliw efydd, ei yrru o ganol y dref tua 10:45 i leoliad yr ymosodiad.

Cafodd y gyrrwr a theithiwr eu disgrifio fel Asiaidd o ran ymddangosiad ac yn eu 20au cynnar.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu'r De ar 101.