Cyllyll a ffyrc: £4,000 mewn arwerthiant
- Published
Mae cyllyll a ffyrc arian oedd unwaith yn eiddo i ffigwr crefyddol blaenllaw wedi cael eu gwerthu am bron i £4,000 mewn arwerthiant yn Sir Conwy.
Amcangyfrifwyd bod y casgliad o tua 150 o ddarnau yn werth hyd at £3,000 ac yn pwyso 7 kg.
Roeddent yn perthyn yn flaenorol i'r Parchedig John Williams, gweinidog Anghydffurfiol a helpodd recriwtio dynion o Gymru i'r Fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd y set ei gwerthu ym Mae Colwyn i gynigydd ar-lein anhysbys am £3,900.
Derbyniodd y Parch Williams, a aned yn Llandyfrydog ar Ynys Môn yn 1854, y set fel anrheg priodas ym 1899.
Dechreuodd bregethu yn 19 oed ac yn 1895 daeth yn weinidog ar Eglwys Princes Road yn Lerpwl cyn mynd ymlaen i bregethu mewn capeli a marchnadoedd ledled y Gymru wledig.
Bu farw ym mis Tachwedd 1921 a chladdwyd ef yn Llanfaes ger Biwmares.
Cafodd y llestri arian eu gwerthu ar ran perthnasau y Parch Williams gan Roger Jones & Co.