Rhieni'n apelio yn erbyn iawndal o £1.3m i ferch fferm
- Cyhoeddwyd

Yn y Llys Apêl mae rhieni merch o Sir Gâr a enillodd frwydr gyfreithiol hir yn eu herbyn ynghylch etifeddiaeth fferm y teulu, wedi dechrau eu hymgyrch yn erbyn penderfyniad y barnwr.
Mae Tegwyn a Mary Davies o Fferm Caeremlyn yn Hendy-gwyn ar Daf yn honni bod yr £1.3 miliwn a ddyfarnwyd i'w merch Eirian fel iawndal yn ormodol.
Y llynedd fe ddyfarnodd y Llys Apêl bod Ms Davies wedi gweithio am flynyddoedd ar y fferm laeth am fawr ddim o gyflog.
Roedd rhieni Eirian Davies, 46, wedi addo y byddai hi'n etifeddu fferm lewyrchus y teulu, ond yn dilyn anghydfod teuluol roedd Tegwyn a Mary Davies, sydd yn eu 70au, wedi addasu eu hewyllys i rannu'r fferm 182 erw yn gyfartal rhwng Eirian Davies a'i dwy chwaer.
Chafodd Ms Davies ddim cyflog am ei gwaith ar y fferm tan oedd hi'n 21 oed, ac wedi hynny, byddai'n cael oddeutu £15 y dydd am odro'r gwartheg.
Fe waethygodd anghydfod yn y teulu yn dilyn "ffrwgwd" yn y parlwr llaeth, pan daflodd Mary Davies laeth dros ei merch, ac fe frathodd Eirian Davies ei thad ar ei goes yn ystod y digwyddiad.
Yn 2009, fe ddangosodd ei rhieni ewyllys ddrafft i Miss Davies, oedd yn gadael rhan helaeth o'r fferm iddi. Ond fe newidiodd Mr a Mrs Davies eu meddyliau, gan newid y ddogfen i adael rhan gyfartal o'r fferm i Miss Davies a'i dwy chwaer.
Mae Tegwyn a Mary Davies yn apelio yn erbyn y swm o arian a ddyfarnwyd i'w merch, £1.3m, gan y Barnwr Milwyn Jarman QC.
Ddydd Mawrth, dywedodd eu bargyfreithiwr, Simon Fancourt wrth y Llys Apêl yn Llundain bod y barnwr Jarman yn annheg wedi "gweithio ar y sail bod disgwyliad o etifeddu y cyfan".
Mae disgwyl i'r Arglwydd Ustus Patten, Arglwydd Ustus Underhill a'r Arglwydd Ustus Lewison, sy'n gwrando'r achos, neilltuo eu dyfarniad i ddyddiad diweddarach.