Porthladd yn gwrthwynebu cynllun M4 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r cwmni sy'n rheoli Dociau Casnewydd wedi datgan eu gwrthwynebiad i'r llwybr y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ei fwriadu ar gyfer uwchraddio'r M4 ger y ddinas.
Byddai'r llwybr, sy'n cael ei adnabod fel y llwybr du, yn mynd yn syth drwy'r dociau.
Mae Cymdeithas Porthladdoedd Prydain (ABP) yn dweud na fyddai'n gallu derbyn llongau mawr sy'n defnyddio'r safle ar hyn o bryd.
Bwriad y cynllun yw gwneud teithiau'n gyflymach a lleihau tagfeydd.
£186m i'r economi
Mae 3,000 o bobl yn gweithio i Gymdeithas Porthladdoedd Prydain neu i gwmnïau eraill yn y dociau.
Mae 1.75 miliwn tunnell o nwyddau'n dod drwy'r Gasnewydd bob blwyddyn, a'r gred yw ei fod yn cyfrannu £186m i economi Cymru.
Byddai'r ffordd newydd - 24 cilometr o draffordd a phont chwe lôn dros yr afon - yn cael ei hadeiladu 25 metr uwchben y dociau, er mwyn ceisio lleihau tagfeydd ger twneli Brynglas.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, byddai'r ffordd newydd yn arbed £40m i fusnesau, ac yn ychwanegu £74m i werth ychwanegol gros de Cymru erbyn 2037.
Ond mae ABP yn dweud y byddai'r ffordd yn cyfyngu ar y mathau o longau fyddai'n gallu teithio i Gasnewydd.
Mae'r cwmni'n dweud na fyddai llongau sy'n cario pren o Latfia yn gyson yn gallu dod, gan eu bod yn rhy fawr.
Byddai'r ffordd hefyd yn atal y cwmni rhag symud craeniau mawr o amgylch y safle, yn ôl ABP.
Niweidio'r busnes
Dywedodd cyfarwyddwr ABP yn ne Cymru, Matthew Kennerly y byddai hollti'r porthladd a cholli tir yn niweidio'r busnes.
"Byddai'n cymryd dros 80 acer gennym ni, tua 20% o'r lle sydd gyda ni i reoli'r busnes ar hyn o bryd a lle rydyn ni'n awyddus i ddatblygu yn y dyfodol," meddai.
Oherwydd taldra'r ffordd, dywedodd na fyddai "tua 50% o longau yn gallu mynd drwyddo yn y dyfodol".
Mae ABP yn gwrthwynebu'n swyddogol i'r gorchymyn prynu gorfodol am dir i adeiladu'r ffordd.
Yr M4 - Safbwyntiau'r pleidiau
- Mae Llafur yn addo parhau gyda'r cynllun, gan ffafrio'r llwybr du - ond does dim mwy o fanylion yn ei maniffesto.
- Dywedodd Plaid Cymru y byddai'n gwella'r M4 unai trwy ddefnyddio'r llwybr glas, neu fersiwn wahanol ohono.
- Byddai'r Ceidwadwyr yn dechrau'r gwaith ar y ffordd o fewn 12 mis, ond ychwanegodd y byddai'n adolygu'r opsiynau am ba lwybr i'w ddefnyddio.
- Mae UKIP yn gwrthwynebu'r llwybr du oherwydd y gost a'r niwed i'r amgylchedd yn lleol, gan ffafrio'r llwybr glas.
- Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn gwrthwynebu'r llwybr du, ac maen nhw eisiau defnyddio ffyrdd gwahanol i leihau traffig, fel gwella trafnidiaeth gyhoeddus.
- Byddai'r Blaid Werdd yn cael gwared ar y cynllun yn gyfan gwbl, gan ffafrio gwella systemau trafnidiaeth gyhoeddus, yn cynnwys Metro De Cymru.