Gweithwyr amgueddfa yn dechrau cyfres o streiciau

  • Cyhoeddwyd
Streic

Bydd cyfres o streiciau gan weithwyr amgueddfeydd yng Nghymru yn dechrau ddydd Iau.

Mae aelodau o undeb PCS wedi penderfynu gweithredu am gyfnod amhenodol oherwydd anghydfod ynglŷn â phenderfyniad Amgueddfa Cymru i newid taliadau am waith ar benwythnos.

Dechreuodd yr anghydfod dros ddwy flynedd yn ôl, gyda'r gweithredu diwydiannol hyd yma ar benwythnosau.

Dywedodd Amgueddfa Cymru nad oedd mwy o arian ar gael i wella'r cytundeb presennol sydd wedi ei roi i weithwyr, gan annog iddynt ei dderbyn.

'Hynod o siomedig'

"Rydym yn hynod o siomedig bod undeb y PCS wedi torri amodau'r hyn gafodd ei gytuno gyda'r corff cymodi ACAS, a hynny drwy beidio â chynnal pleidlais ymhlith eu haelodau ynglŷn â'n cynnig diweddaraf," meddai datganiad ar ran yr amgueddfa.

Yn y cyfamser mae'r amgueddfa, sy'n cyflogi 600 o weithwyr dros Gymru, wedi dechrau trafodaethau ar lefel unigol gyda staff ynglŷn â derbyn eu cynnig.

Fel rhan o'r cytundeb, mae'r sefydliad yn cynnig un taliad arbennig, sy'n cyfateb i ddwy flynedd o daliadau bonws am weithio penwythnosau a gwyliau banc.

Mae tua 300 o staff Amgueddfa Cymru yn derbyn y taliadau presennol, ac o'r rhain mae tua 220 yn aelodau o undeb PCS.