Gêm gyfartal i Forgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd
- Cyhoeddwyd

Gêm gyfartal gafwyd rhwng Sir Derby a Morgannwg wedi i'r tywydd amharu ar y chwarae am y trydydd diwrnod yn olynol.
Roedd Morgannwg wedi cyrraedd 87-2 yn eu hail fatiad, 119 ar y blaen, gyda'r capten Jacques Rudolph ar 31 heb fod allan.
Yn gynharach daeth batiad cyntaf y tîm cartref i ben ar 345 wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 377.
Daeth cawod o genllysg i'r County Ground yn Derby i ddilyn eira, galw a golau gwael i atal y chwarae yn ystod y pedwar diwrnod o'r gêm.
Dywedodd hyfforddwr Morgannwg Robert Croft wrth BBC Cymru: "Fe welson ni'r cyfan - glaw, eira, cyser - ond ry'n ni hefyd wedi gweld lot o griced da.
"Dwi'n credu ein bod ni wedi gwella o'r wythnos ddiwethaf [yn erbyn Sir Gaerlŷr] ac roedd hynny'n bwysig. Ond mae lle i wella eto, ac mae hynny'n beth da hefyd.
"Gobeithio y gallwn ni godi'r gêm eto yn erbyn Caint."
Sir Derby v. Morgannwg - Sgôr terfynol
Morgannwg (batiad cyntaf) - 377
(ail fatiad) - 87 am 2
Sir Derby (batiad cyntaf) - 345