Technoleg sonar yn amlygu llongddrylliadau
- Published
Mae prosiect i fapio gwely'r môr gan ddefnyddio technoleg sonar wedi amlygu manylion tanfor nodweddion yn cynnwys llongddrylliadau ar hyd arfordir Cymru.
Arweinir prosiect Seacams gan Brifysgol Bangor ac mae'n mapio cannoedd o filltiroedd o dir o dan y dŵr.
Mae'r gwaith yn cwmpasu'r arfordir oddi ar Ynys Môn a phenrhyn Llŷn a rhannau o arfordir de Cymru.
Mae rhai o'r longddrylliadau yn dyddio yn ôl i'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r gwyddonwyr sy'n gweithio ar y prosiect yn gobeithio y bydd y gwaith yn helpu i wella dealltwriaeth o effaith newid yn yr hinsawdd ar wely'r môr, a sut i ddatblygu pysgodfeydd cynaliadwy a chynlluniau cynhyrchu ynni adnewyddadwy morol.
Mae canlyniadau'r mapio yn cael eu gosod ar ddelweddau Google Earth i ddarparu cyd-destun i wylwyr.
Ymhlith y delweddau mae y llongddrylliadau yr Apapa, stemar, a SS Derbent, tancer, a gafodd eu chwalu gan U-gychod yr Almaen o fewn deuddydd i'w gilydd yn 1917 ar lwybrau mewn ac allan o Lerpwl.