Iechyd yn bwnc llosg rhwng arweinwyr y pleidiau
- Cyhoeddwyd

Mae arweinwyr y pleidiau wedi gwrthdaro dros iechyd yn eu dadl teledu derfynol cyn etholiad y cynulliad.
Yn Nadl Arweinwyr BBC Cymru, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod gweinidogion Llafur yn gwario cyfran fwy o'u cyllideb ar y GIG nag erioed.
Fe wnaeth y pleidiau eraill ymosod ar record iechyd Llafur dros yr 17 mlynedd a chyflwynwyd eu gweledigaethau amgen ar gyfer y gwasanaeth.
Roedd y Ceidwadwyr, Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru, Llafur, UKIP a'r Blaid Werdd yn cymryd rhan.
Cynhaliwyd y rhaglen 90 munud, a gynhaliwyd gan Huw Edwards, yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd a chafodd ei darlledu ar BBC One Wales, BBC News Channel a BBC Radio Wales.
Dywedodd y Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams y gallai pwysau ar y GIG gael ei leihau trwy wella mynediad cleifion at feddygon teulu gyda chronfa £10m.
Pwysleisiodd ei bod am "gymryd gwleidyddiaeth allan o'r GIG", "rhoi'r gorau i ddadlau" ac "eistedd o amgylch y bwrdd gyda gweithwyr proffesiynol".
Addawodd y Ceidwadwr Andrew RT Davies y byddai ei blaid yn amddiffyn cyllid y GIG a pheidio "ad-drefnu ar raddfa eang".
Roedd angen hynny ar y gwasanaeth iechyd fod "fel twll yn y pen", meddai.
Byddai llywodraeth Geidwadol ym Mae Caerdydd yn canolbwyntio ar daclo'r cyflyrau sy'n achosi y mwyaf o farwolaethau, fel canser a strôc, meddai.
Ychwanegodd y byddant hefyd yn gweithio yn galed i gadw gafael ar staff profiadol, ac nid yn unig cyflogi rhai newydd.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, roedd y gwasanaeth iechyd wedi dioddef o dan Lafur, tra byddai'r Ceidwadwyr yn ei breifateiddio.
Dywedodd y byddai Plaid Cymru yn cyflogi a hyfforddi mwy o feddygon a nyrsys, a hefyd yn buddsoddi mewn gofal cymdeithasol er mwyn rhoi diwedd ar sefyllfa lle mae angen talu am ofal mewn rhai sefyllfaoedd ond nid mewn sefyllfaoedd eraill.
Wrth amddiffyn y Llywodraeth ddiwethaf, dywedodd Carwyn Jones fod gofal brys yn "her" oherwydd bod y gofynion yn cynyddu bob blwyddyn.
Roedd gweinidogion yn gwneud mwy i rwystro pobl, er enghraifft yr oedrannus, rhag cyrraedd cyflwr difrifol ac felly yn diweddu mewn uned frys oherwydd mai hynny fyddai'r unig opsiwn, meddai.
Fe wnaeth Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru, addo cefnogi meddygon teulu oedd, meddai, yn darparu'r mwyafrif o wasanaethau gofal iechyd ond gyda lleiafrif o'r adnoddau.
Dywedodd y byddai UKIP hefyd yn gwrthwynebu cytundeb masnach draws Atlantaidd, rhywbeth meddai fyddai'n arwain i fwy o breifateiddio.
Dywedodd mai'r unig fodd o frwydro yn erbyn cytundeb o'r fath oedd pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl Alice Hooker-Stroud, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, roedd angen atebion mwy sylfaenol drwy hyrwyddo cymdeithas fwy iachus.
Mae pobl angen tai cynnes, cyflogaeth sefydlog, a llwybrau cerdded a seiclo mwy diogel, meddai.
Mynd i'r afael ag achosion afiechyd oedd y peth gorau, hynny cyn bod angen triniaeth.
Dywedodd Ms Hooker-Stroud y dylai gwasanaethau iechyd gael yr adnoddau sydd eu hangen, ac nad oedd Llafur wedi llwyddo yn hynny o beth.
Dadansoddiad Tomos Livingstone, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru.
Mae'r Gwasanaeth Iechyd ar y papur pleidleisio - dyna oedd her Carwyn Jones yn ystod eiliadau agoriadol y drafodaeth heno.
Ac efallai am y tro cyntaf ers i'r ymgyrch ddechrau roedd iechyd yn cymryd ei le fel prif bwnc llosg yr etholiad.
Ond nid y gwleidyddion, efallai, oedd y sêr heno: gydag wythnos i fynd ail-adrodd eu polisïau ac ymosod cymaint â phosib ar y lleill oedd eu cymhelliad nhw; bydd pob un yn weddol fodlon eu bod wedi llwyddo, yn hynny o beth.
Na, y gynulleidfa wnaeth sicrhau fod hon yn rhaglen werth gwylio - digon o angerdd, a digon i ddweud wrth draddodi'u profiadau o'r gwasanaeth iechyd.
Efallai welwn ni'r ffocws ar wasanaethau cyhoeddus yn yr wythnos ddiwethaf sy heb, mewn gwirionedd, ddigwydd hyd yma.
Dechrau gweld wnaethon ni hefyd pa mor wahanol yw'r etholiad yma i'w gymharu â 2011 - mwy o bleidiau cystadleuol, mwy o bwerau i'r buddugwyr a llawer mwy o amrywiaeth polisi. Wythnos i fynd!