Gyrrwr bws yn gwadu achosi marwolaeth dyn

  • Cyhoeddwyd
llys
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y diffynnydd yn ymddangos ger bron Llys y Goron Wyddgrug fis Mai

Mae gyrrwr bws ysgol o Sir y Fflint wedi gwadu achosi marwolaeth dyn drwy yrru'n ddiofal.

Bu farw Andrew Mark Green, 39, wedi gwrthdrawiad ym mhentref Ffynnongroyw ym mis Mehefin y llynedd.

Fe ymddangosodd Jonathon Brown, 37, o Strand Crescent, Treffynnon, yn Llys Ynadon Sir y Fflint ddydd Mawrth.

Fe blediodd yn ddieuog i'r cyhuddiad a chafodd yr achos ei yrru i Lys y Goron yr Wyddgrug ble bydd y diffynnydd yn ymddangos ddiwedd Mai.

Mae Mr Brown wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth Mr Green, o Fwcle, drwy yrru bws Volvo'n ddiofal ar 22 Mehefin, 2015.

Cafodd Mr Green ei hedfan i Ysbyty Prifysgol North Staffs yn Stoke gydag anaf difrifol i'w ben yn dilyn y digwyddiad tua 08:00. Bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.

Roedd wedi bod yn gweithio fel dyn casglu sbwriel gyda Chyngor Sir y Fflint am chwe mis, a chafodd ei ddisgrifio fel "aelod hoffus o'r tîm".