M4: Dyn yn euog o achosi tair marwolaeth ger Chippenham
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ei gael yn euog o achosi marwolaethau tri dyn o dde Cymru mewn digwyddiad "echrydus a trawmatig" ar yr M4 yn Wiltshire.
Bu farw James Stark, 37 oed, Steven Sheldon, 35 oed, a Martin Williams, 36 oed, o Gwm Cynon pan wnaeth lori a fan wrthdaro ger Chippenham fis Mehefin 2014.
Cafodd y rheithgor yn Llys y Goron Swindon Stephen Jenkins, 39 oed, o Park View Terrace, Abercwmboi, yn Rhondda Cynon Taf, yn euog o dri chyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 6 Mehefin.
Dywedodd y Sarjant Barrie Card o Heddlu Wiltshire: "Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad manwl o beth ddechreuodd yn olygfa echrydus a trawmatig ac ni fyddai'r dedfrydau yma wedi bod yn bosib heb waith caled ac ymroddiad y rheiny oedd yn gysylltiedig â'r achos."