Llafur: Corbyn 'yn annhebyg' o ddod i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn 'yn annhebyg' o ddod ar ymweliad i hyrwyddo ymgyrch ei blaid ar gyfer etholiadau'r cynulliad.
Mae hyn oherwydd ofnau effaith negyddol allai ddod yn sgil y drafodaeth am honiadau o wrth-semitiaeth fewn y Blaid Lafur.
Daw ei gyhoeddiad yn sgil atal cyn-Faer Llundain, Ken Livingstone, o'r blaid, wedi cyhuddiadau o farn wrth-semitiaeth.
Dywedodd ffynhonnell yn agos i Mr Corbyn fod yr arweinydd yn credu y byddai'r "lefel uchel o sylw gan y cyfryngau" yn effeithio ar unrhyw ymgyrch i hyrwyddo'r blaid yng Nghymru.
Nos Iau dywedodd prif weinidog Cymru, Carwyn Jones, ei fod yn cytuno gyda'r penderfyniad wahardd Mr Livingstone o'r blaid dros dro.
'Synhwyrol'
Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Yr Arglwydd Hain, wrth BBC Cymru:
"O ystyried yr hyn sy'n digwydd yn Llundain, mae'n synhwyrol ein bod yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru."
"Mae Llafur yn blaid wrth-hiliol falch," ychwanegodd, gan ddweud fod y ddadl gyda Mr Livingstone yn "eithriad".
Fe ddaeth Mr Corbyn i Gymru i ymweld â'r gwaith dur ym Mhort Talbot ym mis Mawrth.
Mae'r Prif Weinidog, David Cameron wedi gwneud un ymweliad â Chymru yn ystod cyfnod yr etholiad. Yn gynharach yn yr wythnos fe ymwelodd â Phort Talbot, ac ymunodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ag ef mewn ffatri yng Ngorseinon.
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron ac arweinydd UKIP, Nigel Farage, wedi gwneud dau ymweliad â Chymru yn ystod yr ymgyrch.
Dadansoddiad Nick Servini, golygydd gwleidyddol BBC Cymru
Dyma sefyllfa anghyffredin iawn.
Mae arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, Carwyn Jones yn dweud i bob pwrpas nad yw am weld arweinydd y blaid ym Mhrydain, a hynny ddyddiau cyn etholiad y Cynulliad.
Mae hyn yn ein hatgoffa o'r tensiwn oddi fewn i'r blaid Lafur, sydd ar adegau wedi bygwth rhyfel cartref o ganlyniad i agwedd nifer o ASau tuag at Jeremy Corbyn.
Fisoedd yn ôl fe wnaeth Llafur Cymru ddatgan yn gwbl glir i Aelodau Seneddol Cymreig y dylai eu beirniadaeth gyhoeddus o Jeremy Corbyn ddod i ben oherwydd bod etholiad y Cynulliad ar y gorwel.
Nawr, mae'r cyhuddiadau o ymddygiad gwrth-semitaidd wedi dod a'r tensiynau yma yn ôl i lygaid y cyhoedd, a hynny ond ddiwrnodau cyn yr etholiad.