Ysgwyd babi: Carcharu tad am wyth mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Mullender

Mae tad wedi ei garcharu am wyth mlynedd am ysgwyd ei fab deufis oed i farwolaeth.

Fe wnaeth Sean Mullender, 22 o Gei Connah yn Sir y Fflint, gyfaddef dynladdiad y babi, Daniel, ym mis Hydref 2014.

Cafodd y babi ei gludo i Ysbyty Caer ar 2 Hydref 2014, ond bu farw deuddydd yn ddiweddarach.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod y babi wedi dioddef anafiadau i'w ben o achos ysgwyd.

Dywedodd Paul Lewis QC ar ran yr erlyniad: "Mae'n rhaid bod y diffynnydd wedi ysgwyd y babi gyda nerth sylweddol i achosi anaf i'r ymennydd a gwaedu yn ei lygaid..."

Roedd Mullender wedi gwadu llofruddio'r babi, ond cafodd ei ble i gyhuddiad o ddynladdiad ei dderbyn gan y llys.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Mrs Ustus Nicola Davies bod Mullender wedi dweud celwydd am yr hyn a wnaeth ac wedi ymddwyn yn "ddidrugaredd".

"Roedd Daniel yn eich gofal chi, chi oedd ei dad," meddai.

Ychwanegodd: "Am weddill eich bywyd byddwch yn byw gyda'r hyn a wnaethoch i'ch babi, hogyn bach yr oeddech yn ei garu ac wedi gofalu amdano.

"Byddwch yn byw gyda chanlyniadau'r hyn a wnaethoch am flynyddoedd."