Enwi'r tad a mab ar gwch pysgota wnaeth suddo

  • Cyhoeddwyd
The HarvesterFfynhonnell y llun, Archie Harris

Tad a mab oedd y ddau ddyn ar gwch pysgota wnaeth suddo oddi ar arfordir Sir Benfro nos Iau.

Maen nhw wedi cael eu henwi yn lleol fel Gareth a Daniel Willington o bentref Caeriw yn Sir Benfro.

Mae'r chwilio yn parhau ar y tir am un o'r pysgotwyr. Mae'r dyn arall wedi marw.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi adroddiadau bod y cwch, The Harvester mewn trafferthion ger Tyddewi am 14:30 ddydd Iau.

Yn dilyn ymgyrch chwilio, cafodd un dyn ei ddarganfod a'i gludo i'r ysbyty ond bu farw.

Nid yw'r ail ddyn oedd ar y cwch wedi ei ddarganfod.

Disgrifiad,

Chwilio am bysgotwyr oddi ar arfordir Sir Benfro

Disgrifiad o’r llun,
Rhannau o'r cwch ddaeth i'r fei ger arfordir Sir Benfro

Bu pump o fadau achub yn chwilio am y llong, wnaeth suddo tua milltir oddi wrth y lan, yn ogystal a'r hofrennydd a chriwiau chwilio.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi gofyn i unrhyw dystion gysylltu.