Mwy yn sâl o'u gwaith ym mis Ionawr
- Cyhoeddwyd
Yn ôl ffigyrau newydd, 8 Ionawr llynedd oedd y diwrnod pan oedd y nifer uchaf o weithwyr o'r sector gyhoeddus i ffwrdd o'u gwaith yn sâl.
Mi ymddangosodd y dyddiad wyth gwaith yn y rhestr o'r deg diwrnod uchaf ymhlith yr awdurdodau wnaeth ymateb i gais rhyddid gwybodaeth BBC Cymru.
Mi oedd mwy na 4,750 o staff yn absennol ar y diwrnod hwnnw.
- 17 Rhagfyr oedd ar y brig yn 2014
- 8 Ionawr yn 2013
- 20 Rhagfyr yn 2012
Mae undeb Unison Cymru wedi dweud bod straen a phwysau gwaith yn ystod y gaeaf yn golygu bod gweithwyr yn "fwy tebygol" o gael salwch tymhorol.
Fe ofynnodd BBC Cymru i'r gwasanaeth tân, heddlu, cynghorau, byrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i roi rhestr o'r deg diwrnod uchaf pan oedd eu gweithwyr i ffwrdd o'r gwaith yn sâl ers 2012.
Ionawr oedd y mis gyda'r mwyaf o weithwyr yn sâl a mis Rhagfyr yn ail a Chwefror wedi hynny.
Y sector breifat
Dywedodd Dominic MacAskill o Unison Cymru bod y gaeaf yn gyfnod prysur i weithwyr yn y sector gyhoeddus am fod yna fwy o alw am wasanaethau iechyd a gofal yr adeg yma. Dywedodd hefyd bod y toriadau i wasanaethau wedi cael effaith.
"Mae'r pwysau yma ar wasanaethau yn cynyddu'r straen ar weithwyr sector gyhoeddus am fod galw arnynt i wneud mwy. Mae tystiolaeth yn dangos bod mwy o straen yn effeithio system imiwnedd pobl gan olygu eu bod yn fwy tebygol o fynd yn sâl."
Mae'r ffigyrau swyddogol diwethaf yn dangos bod nifer yr oriau sydd yn cael eu colli am fod gweithwyr cyhoeddus ym Mhrydain yn sâl yn uwch nag yn y sector breifat ond mae'r bwlch wedi lleihau yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Yn ôl Jonathan Isaby, Prif Weithredwr Cynghrair y Trethdalwyr mae'r gwahaniaeth yn "sylweddol" ac mae'n dweud bod angen mwy o atebolrwydd i ddelio â'r broblem.
Fe wrthododd wyth o sefydliadau i ymateb i'r cais rhyddid gwybodaeth: Cyngor Sir Y Fflint, Castell Nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.
Roedd rhai eraill ddim ond yn gallu darparu'r mis uchaf.