Sheffield Wednesday 3-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Sean Morrison (chwith) yn herio Lucas Joao o Sheffield Wednesday
Mae gobeithion clwb peldroed Caerdydd o gael ei ddyrchafu i'r uwch gynghrair wedi diflannu ar ôl 'r tîm gael ei drechu oddi cartref gan Sheffield Wednesday.
Doedd yna ddim gôl yn yr hanner cyntaf ond mi ddaeth tair yn yr ail hanner.
Daeth y gyntaf gan Gary Hooper ac fe rwydodd Lee Peltier yn ei gôl ei hun wedi 75 munud.
Hooper gafodd y drydedd yn ystod yr amser ychwanegol.
Mae'r canlyniad yn golygu bod yr Adar Gleision yn aros yn y seithfed safle.