BBC Cymru Fyw

Gleision 27- 40 Gweilch

Published
Mewn gêm hynod o gystadleuol mi wnaeth y Gweilch daro nôl i gipio buddugoliaeth yn erbyn y Gleision.
Roedd yna ddeg pwynt rhwng y ddau dîm ar un cyfnod ond daeth ceisiadau gan Hanno Dirksen a Sam Underhill i'r Gweilch yn yr ail hanner gan olygu, gyda chwe munud i fynd, mai dim ond un pwynt oedd yn gwahanu'r rhanbarthau - 27-26.
Ond daeth dau gais hwyr gan Rhys Webb i selio ffawd y gêm i roi sgôr terfynnol o 27-40.
Mae'r canlyniad yn golygu bod gobeithion y Gleision o gyrraedd pencampwriaeth Ewrop drosodd tra bod yna dal siawns i'r Gweilch.