Casnewydd 0- 1 Notts County
- Cyhoeddwyd

Mae rhediad Casnewydd o golli gemau yn parhau wrth i Notts County sgorio'r unig gôl yn y gêm ar Rodney Parade.
Dyma'r degfed gêm i'r Alltudion ei cholli.
Manteisio ar gamgymeriad gan un o chwaraewyr Casnewydd, Joe Day wnaeth Genaro Snijders er mwyn cael y gôl a hynny ar ôl 39 munud.
Er y canlyniad mae Casnewydd yn saff o'u lle yn Adran 2.