Dreigiau 20-34 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Mae gobeithion y Scarlets o chwarae ym mhencampwriaeth Ewrop yn fwy tebygol ar ôl iddyn nhw ennill pwynt bonws yn erbyn y Dreigiau ddydd Sadwrn.
Daeth ceisiadau i dîm y Sosban gan Scott Williams, yn ei gêm gyntaf yn ôl wedi anaf, a Steven Shingler, Steffan Evans a Gareth Davies.
Adam Warren ac Adam Hughes wnaeth groesi'r llinell i'r Dreigiau.
Hon oedd ail gêm Dydd y Farn, diwrnod pan mae pedwar rhanbarth Cymru yn chwarae yn erbyn ei gilydd y Stadiwm Y Pricipality
Yn y gêm gyntaf fe gurodd y Gweilch y Gleision o 40 i 27.
Mae'r canlyniad yn golygu y bydd yn rhaid i'r Scarlets ennill yn erbyn Munster ddydd Sadwrn nesaf a gobeithio na fydd Ulster yn curo'r Gweilch er mwyn cael siawns o chwarae yng nghystadleuaeth Cwpan Ewrop y tymor nesa.