Beirniadu gwefan sydd wedi cael £250,000 o arian Cronfa Loteri

  • Cyhoeddwyd
Mike Harris

Mae cynghorydd lleol wedi beirniadu gwefan sydd wedi cael £250,000 o arian i alluogi pobl i rannu arbenigedd a gwybodaeth wedi i 340 o ddefnyddwyr gofrestru i'w defnyddio mewn cyfnod o ddwy flynedd.

Mae Cronfa Loteri Fawr - sydd wedi rhoi'r arian - yn dweud bod Wisdom Bank wedi cyrraedd ei thargedau.

Ar ôl i'r nawdd ddod i ben y llynedd mi gymerodd Cyngor Torfaen gyfrifoldeb am y prosiect ond does dim modd defnyddio'r wefan ar hyn o bryd oherwydd 'problemau technegol dros dro'.

Mae'r Cynghorydd Mike Harris, sydd yn aelod o bwyllgor archwilio'r cyngor yn teimlo nad oes gwerth na dyfodol i'r wefan.

Mewn datganiad mae Cronfa Loteri Fawr yn dweud mai bwriad y prosiect yw "meithrin profiad a sgiliau pobl rhwng 45-65 oed er budd y gymuned ehangach yn Nhorfaen."

Roedd y prosiect yn bwriadu recriwtio 60 o fentoriaid a chefnogi 500 o unigolion. Ond mae Cyngor Torfaen yn dweud mai 340 o ddefnyddwyr sydd gan y wefan.

Disgrifiad o’r llun,
Bwriad Wisdom Bank yw "meithrin profiad a sgiliau pobl rhwng 45-65 oed er budd y gymuned ehangach yn Nhorfaen"

Mae Mike Harris yn dweud na ddylai unrhyw arian cyhoeddus ychwanegol gael ei wario ar y wefan oni bai bod y rhai tu ôl i'r cynllun yn gallu profi eu bod wedi gwneud gwahaniaeth.

"Mi fyddai Cronfa Loteri wedi edrych ar y cynllun busnes ac mae'n rhaid i chi gwestiynu eu barn pan mae yna risg mor uchel.

"Dyw £250,000 ar gyfer gwefan sydd ond yn cael ei defnyddio gan 340 o bobl ddim i weld fel gwerth da am arian pan allwch chi gyfathrebu gyda nhw trwy wefannau cymdeithasol fel Facebook."

Mae'r cynghorydd yn dweud bod yna gwestiynau difrifol i ofyn os bydd y prosiect yn parhau gan y bydd arian cyhoeddus wedyn yn cael ei ddefnyddio.

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Torfaen: "Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Torfaen yn credu bod Wisdom Bank yn blatfform digidol sy'n torri tir newydd wrth gyfathrebu efo'r gymuned leol. Mae'r cyngor nawr yn gyfrifol am oruchwylio datblygiadau pellach. Mae yna broblem dechnegol gyda'r wefan ar hyn o bryd ond mi fydd y broblem yn cael ei datrys cyn gynted ag sy'n bosib."

Dyw cyfrif Facebook a Twitter y wefan ddim wedi eu diweddaru ers haf llynedd.