Ffrwgwd yn ystod gêm bêl droed
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio wedi ffrwgwd yn ystod gêm bêl droed rhwng tîm o Wrecsam, Derwyddon Cefn a thref Caernarfon.
Mae'r heddlu yn dweud bod nifer o bobl ynghlwm â'r digwyddiad ac maen nhw eisiau i gefnogwyr wnaeth ffilmio'r ffrwgwd ar eu ffonau symudol i gysylltu â nhw.
Mae'r ddau glwb wedi dweud na fyddan nhw'n gwneud sylw tra eu bod yn disgwyl yr adroddiad gan y dyfarnwr.
Dywedodd yr Arolygwr Gareth Evans bod y sefyllfa wedi ei datrys yn gyflym a bod ymchwiliad wedi cychwyn.