Diwedd i chwilio am bysgotwr coll

  • Cyhoeddwyd
A man named locally as Daniel Willington remains missingFfynhonnell y llun, BBC/ Facebook
Disgrifiad o’r llun,
Mae Daniel Willington yn parhau ar goll

Dywed Gwylwyr y Glannau eu bod wedi rhoi'r gorau i'r chwilio am bysgotwr sydd wedi bod ar goll ar ôl i gwch pysgota suddo oddi ar arfordir Sir Benfro.

Mae Daniel Willington, 32, o Gaeriw, de sir Benfro wedi bod ar goll ar ôl i'w gwch daro creigiau ddydd Iau.

Bu farw ei dad oedd hefyd ar fwrdd y cwch.

Bu pum bad achub, hofrennydd achub a chychod lleol yn cynorthwyo'r chwilio.

Ddydd Llun dywedodd gwylwyr y glannau yn Aberdaugleddau bod y chwilio wedi dod i ben.

Cafodd munud o dawelwch ei gynnal mewn cyn gem bêl-droed ym mhentre' y ddau ddydd dros y penwythnos.

Dywedodd Jeremy Griffiths, ysgrifennydd clwb pêl-droed Caeriw: " Mae hyn wedi taro'r pentre' cyfan, rydym yn gymuned fach ac yn gymuned agos."