Paratoi i ddymchwel adeilad 'hyll' yng nghanol Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae gwaith i baratoi i ddymchwel "un o adeiladau hyllaf" Caerdydd yn dechrau ddydd Mawrth, gan baratoi'r ffordd ar gyfer cyfnewidfa drafnidiaeth ganolog.
Bydd yr ardal o amgylch Tŷ Marland - a fu gynt yn cynnwys siopau a swyddfeydd ger gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog - yn cael ei chau.
Bydd y gwaith dymchwel, yn cynnwys Tŷ Marland a maes parcio NCP Stryd Wood, yn "garreg filltir bwysig" yng nghynllun adnewyddu'r Sgwâr Canolog, medd cyngor y brifddinas.
Y gweithgareddau cyntaf fydd gwaredu a symud cyflenwadau nwy, trydan a dŵr, a gwagio'r adeiladau, ac mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.
Mae dyluniad y gyfnewidfa'n cael ei ddatblygu gan Foster & Partners ar ôl cael ei gymeradwyo gan Gabinet y Cyngor ym mis Mawrth, ac mae disgwyl i gais cynllunio gael ei gyflwyno yn yr haf.
'Porth newydd'
Bydd ffin safle adeiladu pencadlys y BBC yn cael ei hymestyn o ddydd Mawrth i gau'r palmant wrth ochr Tŷ Marland. Bydd ffordd newydd wrth ymyl Stadiwm y Principality i gerddwyr, heibio i Un Sgwâr Canolog, yn cynnig mynediad i orllewin y ddinas a bydd Heol Saunders yn cynnig mynediad i'r brif ganolfan siopa.
Yn ogystal, mae disgwyl i Dŷ Dewi Sant ar ochr ogleddol Stryd Wood gael ei ddymchwel yn 2017.
Yn ôl llefarydd ar ran y cyngor, mae cwmni Rightacres yn paratoi cynlluniau am "ddatblygiad defnydd cymysg" a fydd yn "cyfrannu at ddarparu dros 1m troedfedd sgwâr o ddatblygiad o ansawdd yn ffurfio porth newydd canol dinas Caerdydd".
Straeon perthnasol
- 28 Ebrill 2015
- 10 Chwefror 2016