Damwain angheuol yr A541: Enwi dyn

  • Cyhoeddwyd
car heddlu

Mae'r heddlu wedi enwi'r dyn a gafodd ei ladd mewn damwain ar ffordd yr A541 yn Nannerch rhwng Dinbych a'r Wyddgrug ddydd Sul.

Roedd Jonathan Philip Yeardley yn 28 oed ac yn dod o ardal Nannerch.

Bu farw Mr Yeardley yn y fan a'r lle a chafodd dau ddyn arall eu hafon i'r ysbyty.

Mae un ohonynt yn parhau yn yr ysbyty yn Stoke, yn sefydlog ond gydag anafiadau difrifol.

Mae'r dyn a gludwyd i Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael ei ryddhau.

Mae'r heddlu yn dal i ofyn i dystion i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101.