Cynghorau Gwynedd ac Abertawe yn wynebu adolygiad barnwrol

  • Cyhoeddwyd
cynghorau Abertawe a GwyneddFfynhonnell y llun, Jaggery/Geograph

Mae dau o gynghorau Cymru yn paratoi i fynd i'r llys yn sgil honiadau eu bod nhw wedi cymeradwyo cynigion hiliol.

Y Jewish Human Rights Watch, mudiad sy'n gwrthwynebu agweddau maen nhw'n eu hystyried i fod yn wrth-semitaidd, sydd wedi galw am adolygiad barnwrol.

Mae cynghorau Gwynedd ac Abertawe yn gwadu'r honiadau.

Credir y gallai'r broses gyfreithiol gostio degau o filoedd o bunnoedd iddynt.

Cenhedloedd Unedig

Yn 2010 roedd cyngor Abertawe yn ceisio cymryd rhan mewn contractau gyda Veolia, cwmni a oedd hefyd yn rhan o gonsortiwm oedd am adeiladu system rheilffordd yn cysylltu Israel i aneddiadau yn Nwyrain Jerwsalem.

Roedd y cynnig gerbron y cyngor yn dweud bod y prosiect "nid yn unig yn groes i ofynion y Cenhedloedd Unedig, ond hefyd yn groes i gyfraith ryngwladol".

Fe wnaeth nifer o gynghorwyr alw ar arweinydd y cyngor ar y pryd a'i brif weithredwr i "gefnogi safbwynt y Cenhedloedd Unedig o ran setliadau Israel yn Nwyrain Jerwsalem, cyn belled ag y byddai gwneud hynny ddim yn groes i unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol" ac i'r cyngor i beidio â gwneud busnes gydag "unrhyw gwmni sy'n torri cyfraith ryngwladol neu rwymedigaethau'r Cenhedloedd Unedig, cyhyd ag y byddai gwneud hynny ddim yn groes i unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol".

Cafodd y cynnig ei gymeradwyo ym mis Mehefin 2010, ond nid yw'n rhwymol.

'Effaith andwyol'

Yn 2014 pasiodd Cyngor Gwynedd gynnig oedd yn galw am embargo masnach gydag Israel, yn condemnio yr "ymosodiadau gan wladwriaeth Israel ar diriogaeth y Palestiniaid yn byw yn y Llain Gaza".

Roedd hefyd yn dweud: "Rhaid ei gwneud yn glir bod y cynnig yn condemnio gwladwriaeth Israel ac nid y grefydd Iddewig."

Ond dywedodd cyfreithiwr oedd yn cynrychioli'r Jewish Human Rights Watch,, Robert Festenstein: "Byddem yn hoffi gweld y cynigion yn cael eu diddymu. Nid wyf yn deall pam y byddent yn eu pasio yn y lle cyntaf..

"Ni fyddent yn pasio cynnig yn dweud rhywbeth dirmygus am fenywod felly pam y byddent yn gwneud hynny am Iddewon?"

Ychwanegodd: "Pam y byddent yn pasio cynnig sy'n cael effaith andwyol ar y berthynas gyda phobl Iddewig yn Abertawe yn arbennig, ac yng Nghymru yn gyffredinol?"

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Abertawe mewn datganiad: "Ar 10 Mawrth, 2016, penderfynodd y cyngor llawn i beidio â diddymu'r rhybudd o gynnig a basiwyd ar 17 Mehefin, 2010.

"Nid yw'r cyngor erioed wedi boicotio nwyddau o Israel, ac nid oes ganddo unrhyw fwriad o wneud hynny. Am resymau cyfreithiol, byddai'n amhriodol i wneud sylw pellach."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Ni fyddai'n briodol inni wneud sylwadau ynghylch y mater hwn oherwydd bod achos cyfreithiol ar y gweill y mae'r Cyngor yn amddiffyn."

Bydd JHRW hefyd yn cymryd camau yn erbyn Cyngor Dinas Caerlŷr.

Mae'r adolygiad barnwrol yn dechrau ddydd Mercher a disgwylir iddo bara am ddau ddiwrnod.